About us

Amdanom Ni

Welcome to the Gwin Cymru

Created in 2013, Gwin Cymru (formerly the Welsh Vineyards Association) is the regional association for WineGB in Wales. WineGB is the national association for the English and Welsh wine industry. Its mission is to advance the multiple interests of all its members to establish Great Britain as one of the world’s great quality wine regions

Wales can boast that the first commercial vineyard in the UK was planted by Lord Bute at Castell Coch in 1870s. Today, our vineyards are sited from Chepstow in the south to Anglesey in the north, Monmouth in the east and Aberaeron in the west. With additional planting on existing sites and new vineyards being established, production from Welsh vineyards has grown rapidly in recent years and this expansion is set to continue.

The quality wines produced by the Welsh vineyards have won many awards in international competitions such as Global Masters, Decanter and International Wine Challenge. Many of the vineyards also see tourism as a key part of their business and welcome visitors to their facilities.

Croeso i Gwin Cymru

Wedi’i chreu yn 2013, Gwin Cymru (a elwid gynt yn Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru) yw’r gymdeithas ranbarthol ar gyfer WineGB yng Nghymru. WineGB yw’r gymdeithas genedlaethol ar gyfer diwydiant gwin Cymru a Lloegr. Ei chenhadaeth yw hyrwyddo buddiannau lluosog ei holl aelodau i sefydlu Prydain Fawr fel un o ranbarthau gwin o ansawdd gwych y byd.

Gall Cymru frolio bod y winllan fasnachol gyntaf yn y DU wedi’i phlannu gan yr Arglwydd Bute yng Nghastell Coch yn y 1870au. Heddiw, lleolir ein gwinllannoedd o Gas-gwent yn y de i Ynys Môn yn y gogledd, Trefynwy yn y dwyrain ac Aberaeron yn y gorllewin. Gyda phlannu ychwanegol ar safleoedd presennol a gwinllannoedd newydd yn cael eu sefydlu, mae cynhyrchiant o winllannoedd Cymru wedi tyfu’n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf a disgwylir i’r ehangu hwn barhau.

Mae’r gwinoedd o safon a gynhyrchir gan winllannoedd Cymru wedi ennill llawer o wobrau yng nghystadlaethau rhyngwladol megis Global Masters, Deccanter a International Wine Challenge. Mae llawer o’r gwinllannoedd hefyd yn gweld twristiaeth yn rhan allweddol o’u busnes ac yn croesawu ymwelwyr i’w cyfleusterau.